Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 17 Gorffennaf 2017 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.50 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2017(8) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Natalie Drury-Styles, Pennaeth Lleoliadau Seneddol a Gwasanaethau Ymwelwyr Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Eric Gregory, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Croesawyd Eric Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg i'r cyfarfod.
1.2 Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin.
2 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Roedd y Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Cynulliad wedi mynd i'r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Roedd wedi'i amseru i gynorthwyo’r broses o orffen y cyfrifon a’r datganiad llywodraethu. Adroddodd ei fod wedi bod yn flwyddyn dda, ac nad oedd angen i'r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion o bwys.
Tynnodd sylw at un mater a godwyd yn yr wythnos flaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru, mewn perthynas â mater hanesyddol yn gysylltiedig â threfniadau cydnabyddiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru, yr ymdriniwyd ag ef ym mis Gorffennaf 2016.
Gofynnodd y Comisiynwyr hefyd gwestiynau yn ymwneud â diogelwch seiber, ac roeddent yn cefnogi cynlluniau i barhau i godi ymwybyddiaeth, yn enwedig ymhlith Aelodau a'u staff cymorth.
Croesawodd y Comisiynwyr y cyfraniad cadarnhaol a wnaed gan ACARAC a nododd Adroddiad Blynyddol ACARAC.
3 Diwallu ein Hanghenion o ran Llety yn y Dyfodol - y wybodaeth ddiweddaraf
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y sgyrsiau archwiliadol â thirfeddianwyr a chawsant atebion i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2017.
4 Diweddariad ar y strategaeth y gyllideb 2018-19
Ar ôl trafodaeth gychwynnol ar y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod diwethaf, trafododd y Comisiynwyr waith pellach a oedd wedi'i wneud yn cynnwys gwybodaeth newydd a ddaeth i law mewn perthynas â Chynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad a Chost Gwasanaeth Pensiwn (cyllideb AME).
Bu'r Comisiynwyr yn myfyrio ar y sefyllfa o ran eu strategaeth a gwaith y Cynulliad flwyddyn ar ôl yr etholiad, a'r cyfeiriad y maent yn dymuno ei ddarparu o ran blaenoriaethu. Roeddent yn cytuno y dylent fod yn rhan o waith pellach ar hyn yn ystod y toriad.
Caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi.
5 Rheoli rhaglenni'r ystâd
Yn eu cyfarfod ym mis Mai, cytunodd y Comisiynwyr ar ddull wedi'i reoli'n well ar gyfer defnyddio ystâd y Cynulliad yn fwy pwrpasol.
Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer gweithredu'r newidiadau i gyflawni'r nod hwn. Cytunwyd y dylai newidiadau gael eu datblygu a thynnwyd sylw at rai dulliau a allai fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft cysylltu pobl â Grwpiau Trawsbleidiol presennol.
6 Argymhellion y Tasglu Digidol
Cyflwynwyd argymhellion y Tasglu Gwasanaethau Newyddion Digidol i'r Comisiynwyr. Croesawyd yr adroddiad a thrafodwyd sawl agwedd, gan gynnwys yr angen i ymateb yn fwy manwl i argymhellion unigol.
Trafodwyd y posibilrwydd o newid deinameg o ran cynnwys diddorol, a'r berthynas rhwng y Cynulliad fel sefydliad a'i gyfansoddiad gwleidyddol.
Gofynnodd y Comisiynwyr am i waith pellach gael ei wneud fel y gallent ddychwelyd at y materion a nodwyd yn y cyfarfod yn nhymor yr hydref.
7 Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17
Cytunodd y Comisiynwyr ar Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17. Roedd yn cynnwys ail flwyddyn cynllun cynaliadwyedd pum mlynedd y Comisiwn, ac roedd y Comisiynwyr yn gefnogol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma.
8 Unrhyw fater arall
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Rhoddodd y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr ar waith y Panel Arbenigol. Dywedodd wrthynt y bydd y panel yn dechrau dod i gasgliadau ar y tri phwnc dan sylw sef, a ddylid gostwng yr oed pleidleisio, a ddylid cynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad a ph'un a ddylid newid y system bleidleisio. Bydd adroddiad gan y Panel yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn yn ddiweddarach eleni.
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Rhoddodd Joyce Watson ddiweddariad byr ac atgoffodd y Comisiynwyr eu bod wedi cael papur ar gynllun pensiwn yr Aelodau yn gofyn iddynt am eu sylwadau.
Senedd Ieuenctid
Dywedodd y Llywydd wrth y Comisiynwyr bod yr ymgynghoriad ar Senedd Ieuenctid wedi cau bellach, a bod dros 5,000 o ymatebion wedi dod i law o bob rhan o Gymru. Nododd fod y data yn cael ei ddadansoddi a bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 25 Medi.
Plac porffor
Dywedodd y Llywydd wrth y Comisiynwyr ei bod wedi cael cais gan y grŵp trawsbleidiol sy'n ymgyrchu i nodi cyfraniad menywod ledled Cymru i godi plac ar yr ystâd i gofio am Val Feld. Cytunodd y Comisiynwyr mewn egwyddor i'r cais, yn amodol ar drefniadau priodol a lleoliad addas yn cael ei nodi.
Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Nododd y Comisiynwyr ymholiadau yn ymwneud â sylw yn y cyfryngau am amryw agweddau ar y cynllun ieithoedd swyddogol yn yr wythnos flaenorol, gan gynnwys siom ynghylch y ffordd y cafodd sylw yn y cyfryngau a'r canfyddiadau anghywir a allai achosi.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Ionawr - Gorffennaf 2017)
Nodwyd yr adroddiad, a bydd yn barod i'w gyhoeddi.
9.2 Cofnodion drafft cyfarfod ACARAC ar 19 Mehefin 2017
Nodwyd cofnodion cyfarfod ACARAC ar 19 Mehefin 2017.